Page images
PDF
EPUB
[blocks in formation]

BODLEIAT

105.1905

LIBRARY

[merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small]

BETH SYDD FARDDONOL

GOLYGFEYDD BARDDONOL NATUR WELEDIG

Y BARDDONOL MEWN MEBYD A HENAINT

BARDDONIAETH FUGEILIOL

[merged small][ocr errors][merged small]
[ocr errors]
[ocr errors]
[ocr errors]
[ocr errors]
[ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small]
[merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small]

Y LLENOR DIWYLLIEDIG, &c.

[ocr errors]

RHAGARWEINIAD.

UN o'r breintiau godidocaf y mae Rhagluniaeth wedi cynysgaethu dynolryw a hwy, ydyw y gallu i hysbysu eu meddyliau y naill i'r llall. Amddifadrwydd o'r gallu hwn a bair i reswm fod yn egwyddor unig, ac, i ryw fesur, yn un anfuddiol. Llafar yw y peiriant mawr trwy yr hwn y mae dyn yn dyfod yn llesol i ddyn; ac i ryddrediad a throsglwyddiad y meddwl trwy lafar yr ydym yn fwyaf dyledus am ddiwylliad y meddwl ei hun. Ychydig iawn yw y cynydd a wna person unigol a digynorthwy, yn mherffeithiad ei alluoedd. Yr hyn a alwn yn rheswm dynol, nid ymdrech a gallu un ydyw, yn gymaint ag eifaith rheswm y lluaws, yn ymgyfodi oddiar oleuni cydgyfranol, mewn canlyniad i araeth ac ysgrif. Mae yn amlwg, gan hyny, fod ysgrif ac araeth yn wrthddrychau haeddol o'r sylw uwchaf. Pa un bynag yr ymgynghorwn âg ef, ai dylanwad yr areithiwr, neu foddhad y gwrandawr--a pha un ai defnyddioldeb neu bleser fyddo y prif nôd mewn golwg, cymhellir ni gan y dybenion cryfaf i fyfyrio pa fodd y gallwn gyfranu ein meddyliau y naill i'r llall gyda'r fantais fwyaf. Yn unol â hon, canfyddwn bron yn mhlith pob cenedl, pan y bydd iaith wedi gwasanaethu i amlygu angenrheidiau cyffredin dynion, y bydd ymberffeithiad mewn araeth yn dechreu tynu sylw. Gallwn olrhain hyd yn nod yn iaith annghelfydd llwythau anwareiddiedig, fod sylw helaeth wedi cael ei dalu i brydferthwch a grymusder yr ymadroddion a arferent, pan yn ymgais at ddarbwyllo, neu gyffroi y serchiadau. Cydnabyddent, er yn foreu, brydferthwch mewn araeth, ac ymdrechent ei chyfoethogi

« PreviousContinue »